Cynhaliwyd y deuddegfed cynhadledd genedlaethol Canolfan Troseddau a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru yng Ngregynog ar 24-25 Ebrill 2023. Roedd yn bleser gennym groesawu ymarferwyr o’r gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol, llunwyr polisi, ac academyddion ar draws pob cam gyrfa ac o bob rhan o Gymru i rannu ymchwil a phrofiadau o droseddu a chyfiawnder yng Nghymru.
Yn bwysig, gwnaethom ddefnyddio’r cyfle i ddod at ein gilydd i drafod a dadlau am ffyrdd o ddysgu o ymchwil a thystiolaeth a chydweithio i wella’r ffordd y mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio ar gyfer pawb yr effeithir arnynt gan droseddu – dioddefwyr a’r rhai sy’n cyflawni trosedd, cymunedau yr effeithir arnynt gan droseddu ac ymatebion cyfiawnder troseddol a’r rhai sy’n gweithio yn y system – o swyddogion heddlu i’r gwasanaeth prawf a’r llysoedd.
Eleni, roedd yn anrhydedd i ni gael cwmni Jane Hutt, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Fonesig Vera Baird, Cynghorydd Annibynnol i Lywodraeth Cymru ar Ddatganoli Cyfiawnder. Nododd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol gynlluniau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru a rhoddodd y Fonesig Baird amlinelliad o’i phrofiadau o droseddu a chyfiawnder yn ystod ei gyrfa a’i syniadau cychwynnol am y rôl ac i gefnogi LlC yn ei huchelgeisiau.
Mae’n wych gweld Llywodraeth Cymru yn gwrando ar leisiau academaidd ac ymarfer ar gynlluniau ar gyfer datganoli cyfiawnder ac mae Canolfan Troseddau a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru a’i haelodau yn edrych ymlaen at gynnig mewnwelediadau a safbwyntiau ymchwil, yn enwedig ar gyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf ond hefyd tu draw.
Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni ar
Llun o Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol LlC a'r Fonesig Vera Baird , Cynghorydd Annibynnol i Lywodraeth Cymru ar Ddatganoli Cyfiawnder a gymerwyd ar 25 Ebrill 2023