Dyfodol Prawf yng Nghymru:
Yn y papurau hyn, mae'r Grŵp Datblygu Prawf – sy'n rhan o Ganolfan Cymru ar gyfer Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol (CTCCC) – yn ystyried syniadau ynghylch dyfodol y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru, yn enwedig o ran datblygu gwasanaeth prawf datganoledig yng Nghymru.
PDG – Towards a Devolved Probation Service in Wales – Full publication
PDG – Towards a Devolved Probation Service in Wales – Exec Summary CYM
Rheoli Troseddwyr Integredig yng Nghymru:
Mae'r adroddiadau ymchwil hyn yn ystyried barn a phrofiadau swyddogion prawf a swyddogion heddlu sy'n gweithio ym maes Rheoli Troseddwyr Integredig (RTI) yng Nghymru ar lefel leol yn 2023.
IOM Wales report FINAL May 2024
Adroddiad IOM Cymraeg a Saesneg Mai 2024
Dyfodol Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru:
Dyma'r Adolygiad Anffurfiol o Gyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a gomisiynwyd Jonathan Evans gan Lywodraeth Cymru i'w arwain ar ddiwedd 2022 ac a adroddodd i Weinidogion a gweision sifil ym mis Mehefin 2023. Menter ar y cyd oedd yr Adolygiad a gyd-awdurwyd gan aelodau Grŵp Ymgynghorol Academaidd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru mewn ymgynghoriad â llawer o randdeiliaid. Ers hynny, mae'r Adolygiad wedi'i olygu i'w gyhoeddi gan Sue Thomas, Howard Williamson a Jonathan Evans.
The Future of Youth Justice in Wales - an academic reflection 2024
Cyfiawnder Ieuenctid a'r Llys Ieuenctid yng Nghymru:
Mae'r papur hwn, gan y Fonesig Vera Baird a'r Athro Stewart Field, yn ystyried y berthynas rhwng cyfiawnder ieuenctid datganoledig a'r llys ieuenctid yng Nghymru. Mae'n ystyried beth mae profiad cyfredol y llys ieuenctid yn ei awgrymu y gellid ei wneud i hyrwyddo cydlyniant a chysondeb yn y system gyffredinol pe bai datganoli yn digwydd.
Devolution of YJ and Youth Ct in Wales Final
Diwylliannau, Hunaniaethau a Dibenion mewn Cyfiawnder Ieuenctid:
Mae'r papur hwn, gan John Deering a Jonathan Evans, yn cyflwyno 25 o safbwyntiau ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid Cymru ynghylch syniadau am hunaniaeth broffesiynol, diwylliant a dibenion ymarfer cyfiawnder ieuenctid.
Youth Justice Cultures FINAL 04