Mae'r grŵp craidd o aelodau'n cynnwys academyddion o brifysgolion ledled Cymru a'r rhai sydd â phrofiad gweithredol yn y gwasanaeth prawf, o dan adain Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru. Ella Rabaiotti o Brifysgol Abertawe yw cynullydd presennol y grŵp ac mae Alicia Edwards o WCCSJ yn darparu cymorth gweinyddol. Darperir ciplun o aelodau craidd Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf. Mae nifer cynyddol o Aelodau Cyswllt yn ffurfio rhwydwaith eang yng Nghymru a thu hwnt gan ddarparu profiad a chyngor ychwanegol. 

Gorffennaf 2026

Simon Borja

Simon Borja
Rheolwr Datblygu Prosiectau yn Cymru Ddiogelach yw e. Mae wedi gweithio yn Cymru Ddiogelach ers 17 mlynedd ac wedi chwarae rhan annatod yn natblygiad rhai o feysydd prosiect allweddol yr elusen. Mae bellach yn cefnogi ac yn datblygu gwahanol agweddau ar waith allgymorth y sefydliad ac yn cydlynu Prosiect Dyn, sy'n cefnogi dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig.

John Deering John Deering
Yn Gymrawd Ymweliadol yng Nghanolfan Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru. Cyn ymddeol yn 2022, roedd yn Athro Cysylltiol Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn PDC, gan ymchwilio ac addysgu ym meysydd prawf a chyfiawnder ieuenctid. Roedd yn ymarferydd a rheolwr yn y gwasanaeth prawf yn flaenorol.

Martina Feilzer
Yn Athro Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Martina yn ymchwilydd dulliau cymysg gweithredol sy'n edrych ar gwestiynau ymarferol, diwylliannol a rheolaeth ar draws yr heddlu a'r gwasanaethau prawf. Hi yw Cyfarwyddwr presennol Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Cyd-gyfarwyddwr WISERD@Bangor, a Chyd-gadeirydd Academaidd Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan.

Ian Fox

Ian Fox
Ar hyn o bryd yn Gymrawd Ymweliadol yn PDC, bu'n gweithio'n gynt fel swyddog prawf am nifer o flynyddoedd ac roedd yn brif swyddog ym Morgannwg Ganol. Cafodd ei secondio i'r Swyddfa Gartref fel Ymgynghorydd ar Gymru a gweithredodd fel Rheolwr Rhanbarthol y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ar gyfer Cymru. Yn fwy diweddar, rheolodd rai prosiectau prawf mewn rhannau eraill o Ewrop.

Gwyn Griffith Gwyn Griffith.

Darlithydd ac ymchwilydd ym maes troseddeg, Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys cyfiawnder ieuenctid, asesu risg a ffactorau sy'n effeithio ar gyfraddau troseddu ar lefelau gwladwriaethol a lleol. Bu'n gweithio fel swyddog prawf i Wasanaeth Prawf Dyfed-Powys ac yna fel rheolwr gwasanaeth ar gyfer Tîm Troseddu Ieuenctid Ceredigion, Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd a'r Tîm Dyletswydd Argyfwng.

Brian Heath Brian Heath
Bu'n Brif Swyddog Prawf ar gyfer Gwasanaeth Ôl-ofal Jersey 1999 – 2019 ac yn Aelod o Fwrdd Cydffederasiwn Prawf Ewropeaidd CPE 2017-2020. Ar hyn o bryd yn Gymrawd Ymweliadol Prifysgol De Cymru: Aelod Anrhydeddus CPE; aelod o Gyngor Academaidd Canolfan Ryngwladol Jersey ar gyfer Astudiaethau Uwch; wedi'i anrhydeddu'n MBE 2017 am wasanaethau i'r Gwasanaeth Prawf.

Tony Kirk

Yn Arolygydd prawf EM wedi ymddeol. Yn ystod ei gyfnod gyda Phrawf Cymru, arweiniodd ddatblygiad Strategaeth Lleihau Troseddau Cymru a Rheoli Troseddwyr Integredig (RTI) Cymru. Mae Tony wedi arwain nifer sylweddol o arolygiadau ac arolygiadau ar y cyd gan gynnwys Rheoli Troseddwyr yn y Ddalfa (RTD)

Su McConnel

Su McConnel
Yn Aelod Gweithredol o Napo Cymru ac yn gyn Is-gadeirydd, Undeb a Chymdeithas Broffesiynol staff Prawf. Mae hi wedi gweithio yn y Gwasanaeth Prawf ers 1986 mewn rolau o Swyddog Gwasanaeth Cymunedol i Brif Swyddog Cynorthwyol ym Mryste, Durham, Dyfnaint a Chernyw, a Chymru.

Kevin McElduff

Mae Kevin yn arweinydd profiadol ar draws gwasanaethau cyhoeddus, busnes a gwleidyddiaeth. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel ymgynghorydd a hyfforddwr sy'n arbenigo mewn ansawdd, diogelwch a datblygu sefydliadol.

Mike Maguire Mike Maguire
Yn Athro Emeritws mewn Troseddeg yn PDC, ar ôl gweithio ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaerdydd yn flaenorol. Mae wedi ymchwilio a chyhoeddi'n eang ym maes cyfiawnder troseddol, gan gynnwys prawf, carchardai, adsefydlu carcharorion, plismona a chymorth i ddioddefwyr. Roedd yn un o olygyddion gwreiddiol Llawlyfr Troseddeg Rhydychen.
Ella Rabaiotti Ella Rabaiotti
Yn Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe lle mae hi hefyd yn ymgymryd ag ymchwil mewn prawf, iechyd a thlodi, yn ogystal â diogelwch cymunedol. Yn Swyddog Prawf cymwys, mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Cynorthwyol Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, arweinydd Crimestoppers Cymru a Phennaeth Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru
Peter Raynor Peter Raynor
Roedd yn Swyddog Prawf yn y 1970au, ac ers hynny mae wedi gweithio fel academydd ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae'n Athro Ymchwil Emeritws mewn Troseddeg ar hyn o bryd. Roedd gynt yn gyfrifol am waith cymdeithasol a hyfforddiant prawf, ac mae wedi bod yn ymwneud ers bron i hanner can mlynedd ag ymchwil ar faterion prawf a chyfiawnder troseddol.
Kate Jazz Kate Williams
Mae Kate yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru. Mae ganddi brofiad o ymchwilio a chynghori ar faterion o bwys i bolisi ac ymarfer mewn cyfiawnder ieuenctid ac oedolion.