Trosolwg PDG
Nod Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf (PDG) yw tynnu sylw at arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a bylchau mewn polisi ac arferion prawf presennol gyda ffocws ar gyfrannu at ddatblygu system cyfiawnder troseddol a chymdeithasol fwy integredig a chyson yng Nghymru (gweler ein Cylch Gorchwyl am fwy o fanylion). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gynhyrchu tystiolaeth i'w hystyried wrth ddatblygu'r gwasanaeth prawf wedi'i ddatganoli i Gymru. Bydd y wefan yn darparu mynediad at ddogfennau a baratowyd gan aelodau'r Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf, ymchwil a diweddariadau perthnasol yn ogystal â nodi unrhyw ddatganiadau a chyfathrebiadau gan Lywodraeth Cymru sy'n berthnasol i'r nod hwn. Rydym yn croesawu ymholiadau a sylwadau sy'n ymwneud â'n gwaith a byddwn yn anelu at ymateb i ymholiadau e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith drwy'r cyfeiriad e-bost:
Ble ddechreuon ni?
Mae gwreiddiau Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf yn mynd yn â'l i gyflwyniad gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ym mis Mai 2019 ar gampws Casnewydd Prifysgol De Cymru pan nododd ei weledigaeth eang ar gyfer gwasanaeth prawf wedi'i ddatganoli yng Nghymru. Yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw roedd academyddion, cyn- ymarferwyr, ymarferwyr a rheolwyr gwasanaeth prawf, sef pobl graidd a gytunodd i gydweithio er mwyn cefnogi datblygu'r gwasanaeth prawf wedi'i ddatganoli ar sail tystiolaeth.