Mae'r Cais am bapurau - wedi'i ymestyn i ddydd Gwener 14 Mawrth 2025

 

CANOLFAN TROSEDD A CHYFIAWNDER CYMDEITHASOL CYMRU (CTCCC)
https://wc>csj.ac.uk/

CYHOEDDI’R GYNHADLEDD A GALW AM BAPURAU

Bydd CTCCC yn cynnal ei Chynhadledd Flynyddol a noddir gan Gymdeithas Troseddeg Prydain (GTP) – Cangen Cymru ar:

Dydd Mawrth 13eg a Dydd Mercher 14eg Mai 2025

Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Campws Cyncoed)

Campws Cyncoed

DYDDIAD CAU AR GYFER PAPURAU: DYDD Gwener 14 Mawrth 2025.

Galwad am bapurau:

  • Gall papurau gynnwys gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ymchwil wedi ei gwblhau, syniadau polisi, gwaith damcaniaethol, cymharol, sy’n canolbwyntio ar yr ymarferydd neu faterion i ymarferwyr ac ati.
  • Rydym yn croesawu papurau gan ymarferwyr, academyddion, llunwyr polisi a myfyrwyr ymchwil ôl-radd. Goruchwylwyr myfyrwyr ôl-radd, anogwch eich myfyrwyr doethurol i gyflwyno papur - mae'r gynhadledd yn gyfeillgar a chefnogol iawn.
  • Rydym yn croesawu unrhyw bynciau: damcaniaethol; canolbwyntio ar yr ymarferydd; canolbwyntio ar bolisi; cymharol; neu eraill.

Rydym yn croesawu un neu’r ddau o’r canlynol:

  • Papurau cynhadledd llawn - adroddiadau neu bapurau cynhadledd ar ymchwil sydd wedi dod i ben neu sydd ar fin cael ei gwblhau; darnau trafod damcaniaethol ac ati (tua 20 munud fesul papur)
  • Gall darnau byrrach fod ar agweddau bach o waith ymchwil neu ar waith yn ei gamau cychwynnol/datblygiadol – gallai hyn fod ar gyfer adroddiad neu drafodaeth agored ac ati (5 - 10 munud);

Anfonwch yr holl grynodebau (uchafswm o 200 gair, er y gall fod gryn dipyn yn fyrrach) i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. yn nodi pa fath o gyfraniad yr hoffech ei wneud (papur cynhadledd llawn, papur cynhadledd byr, cyflwyniad poster).

Bydd manylion pellach, gan gynnwys manylion y prif siaradwyr, manylion archebu ac ati yn dilyn.

Am ragor o fanylion cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..