Mae tîm Trosedd a Chyfiawnder Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru sefydlu a chynnal grŵp cynghori academaidd ar ran ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru.

Dyma bwrpas y grŵp:

  • Hwyluso ymgysylltiad cydweithredol drwy rannu diweddariadau ar ddatganoli cyfiawnder a materion cyfiawnder perthnasol eraill, gan gefnogi datblygiad y sylfaen dystiolaeth i lywio dylunio a gweithredu polisïau
  • Darparu arbenigedd academaidd ac adborth ar fentrau ymchwil cyfiawnder Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Ymchwil Cyfiawnder a ddyfarnwyd yn ddiweddar
  • Cefnogi’r gwaith o ledaenu gwybodaeth am ddiweddariadau a deunydd academaidd a pholisi perthnasol i'r gymuned academaidd

Sefydlwyd y Grŵp Cynghori ar Gyfiawnder (GCG) ym mis Hydref 2025 ac mae'n cyfarfod bob chwarter. Mae aelodau academaidd yn cynrychioli sefydliadau academaidd ledled Cymru ac yn dod ag arbenigedd ynghyd mewn ystod eang o feysydd ymchwil troseddegol a chyfiawnder troseddol.

Isod mae rhestr o aelodau presennol y GCG. Bydd y GCG yn tynnu ar arbenigedd academaidd ychwanegol yn ôl yr angen a bydd aelodaeth yn cael ei hadolygu'n flynyddol neu'n gynt os oes angen.

James Gerard (Co-chair)

Llywodraeth Cymru

Martina Feilzer (Co-chair)

GTCCC a Prifysgol Bangor

Iolo Madoc-Jones

Prifysgol Wrecsam

Rob Jones

Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd

Trevor Jones

Prifysgol Caerdydd

Kathy Hampson

Prifysgol Aberystwyth

Dan Lawrence

Prifysgol Cardiff Met University

Jonny Matthew

Annibynol

Ella Rabaiotti

Prifysgol Abertawe (cynrychioli y Grŵp Datblygu Prawf Cymru)

Kate Williams GTCCC ac Emerita, Prifysgol Aberystwyth